Fe fydd Llywodraeth San Steffan yn ei “chael hi’n anodd” darparu digon o raean ar gyfer gweddill y gaeaf, yn ôl adroddiad gomisiynwyd gan Whitehall ac a gyhoeddwyd heddiw.
Dywedodd yr adroddiad gan yr arbenigwr trafnidiaeth David Quarmby y bydau’n syniad gwario rhagor yn y dyfodol er mwyn bod yn barod am dywydd gaeafol difrifol.
“Mae pawb yn brwydro i ymdopi ond efallai y bydd busnesau a’r Llywodraeth yn penderfynu gwario rhagor ar adnoddau,” meddai.
“Ond mae’r rheini yn benderfyniadau polisi sydd angen eu gwneud gan ein cynrychiolwyr etholedig ac nid fy lle i yw dweud.”
Roedd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Philip Hammond wedi gofyn i David Quarmby edrych ar sut oedd systemau trafnidiaeth Lloegr wedi ymdopi â’r tywydd gwael rhwng 24 Tachwedd a 9 Rhagfyr eleni.
Ond dywedodd bod yr adroddiad yr un mor berthnasol wrth drafod y tywydd gaeafol diweddaraf.
“Mae defnydd graean wedi bod yn uchel hyd yn hyn,” meddai’r adroddiad.
Er bod yna fwy o raean wedi ei storio nag erioed o’r blaen, mae’n bosib na fydd yna ddigon ar gyfer gweddill y gaeaf, meddai.
“Er mwyn lleddfu’r angen ar gyfer graean, mae angen rhoi blaenoriaeth i daenu llai ar y ffyrdd.”