Ni fydd Prydain yn dechrau dadmer tan Ŵyl San Steffan, cyhoeddwyd heddiw.
Mae yna bryderon na fydd pobol yn gallu cyrraedd eu teuluoedd mewn pryd er mwyn dathlu’r Nadolig oherwydd y trafferthion.
Mae Swyddfa’r Met wedi rhybuddio y dylai pawb ar draws Cymru a Lloegr baratoi am fwy o eira heddiw.
Syrthiodd y tymheredd i -15.4C yng Nghapel Curig yng Nghonwy dros nos. Dim ond Crosby, yng Nglannau Merswy, oedd yn oerach, â’r tymheredd yn syrthio i -17.6C.
Yn ôl proffwydi’r tywydd fe fydd y tywydd rhewllyd yn parhau dros y dyddiau nesaf, gan oedi ymdrechion i leddfu trafferthion teithio ledled y wlad.
Mae disgwyl i ragor o eira ddisgyn ar draws Cymru a chanolbarth Lloegr heddiw ond fe fydd hi’n gliriach ar weddill yr wythnos.