Fe fydd pentref ym Mro Morgannwg yn cynnal pleidlais ynglŷn â newid ei enw Cymraeg.

Yn ôl rhai o drigolion Y Sili, ger Caerdydd, mae’r enw yn wirion ac yn destun sbort i ymwelwyr. Maen nhw am gynnal pleidlais yfory er mwyn newid yr enw i Abersili.

“Yr enw Saesneg yw Sully ond rydym ni’n credu mai Abersili yw’r enw Cymraeg ac nid Sili fel y mae arwyddion ffordd a dogfennau swyddogol yn ei awgrymu,” meddai Cymdeithas Trigolion Sili.

“Mae’r enw Cymraeg, Abersili, yn dod o safle’r pentref ar geg yr afon Sili. Gobeithio eich bod chi’n cefnogi ein cais i newid yr enw i Abersili, yn hytrach nag Sili.”

Dywedodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg mai Sili yw’r enw cywir, sy’n addasiad Cymraeg o’r enw Normanaidd Sully.

Yn ôl Geiriadur Enwau Llefydd Cymru mae’n bosib fod yr enw yn dod o’r teulu de Sully oedd a thiroedd yn Swydd Gaerloyw a Dynaint.