Fydd Llywodraeth y Cynulliad ddim yn galw cynhadledd i drafod effaith y tywydd ar fusnes –ar hyn o bryd o leia’.
Roedd hi’n bwysicach bod swyddogion yn canolbwyntio ar ddelio gydag effeithiau uniongyrchol y tywydd caled, meddai’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones.
Fe ddywedodd hefyd wrth Radio Wales bod y Llywodraeth yn ceisio cael awdurdodau lleol i gydweithio wrth rannu graean, gyda rhybuddion bod prinder mawr mewn rhai siroedd.
Tywod
Mae rhai cynghorau’n cymysgu tywod gyda’r graean a’r halen er mwyn cael gwell defnydd ohono ac, ar raddfa Brydeinig, mae pwyllgor arbennig o dan adain y Weinyddiaeth Drafnidiaeth wedi cymryd cyfrifoldeb am gyflenwadau halen a graean.
“Ryden ni wedi cynyddu ein cyflenwadau o halen ers y llynedd ac mae’r stoc ar hyn o bryd yn ddigonol ar gyfer y dyfodol amlwg gyda rhagor o gyflenwadau ar fin cyrraedd,” meddai Ieuan Wyn Jones mewn datganiad.
Roedd cynrychiolwyr busnes yn ne Cymru wedi galw am gynhadledd oherwydd bod siopau a busnesau eraill yn colli arian wrth i gwsmeriaid fethu â’u cyrraedd.
Llun: Ieuan Wyn Jones