Mae teithwyr yn wynebu amodau teithio anodd eto heddiw ar ôl noson rewllyd arall yng Nghymru.
Ac fe allai Sir Benfro gael peth eira trwm yn ystod y dydd – dyna’r unig ardal lle mae rhybudd o dywydd eithafol.
Rhew yw’r broblem fwya’ mewn ardaloedd eraill – yn ôl y Swyddfa Dywydd fe ddisgynnodd y tymheredd i -15.4C yng Nghapel Curig neithiwr.
Y ffyrdd
Mae Traffig Cymru yn rhybuddio bod yna amodau gyrru anodd ar sawl ffordd yng Nghymru, gyda rhai yn parhau i fod ynghau.
Yn ôl Traffig Cymru mae’r ffyrdd canlynol ar gau ar hyn o bryd-
• A4061 Ffordd Mynydd Rhigos
• A4233 Ffordd Mynydd Maerdy
• A4061 Ffordd Mynydd Bwlch
Mae yna gyfyngiadau cyflymder hefyd ar yr M4 rhwng cyffordd 22 y Pil a chyffordd 49 Pont Abraham.
Awyrennau a threnau
Mae awyrennau’n hedfan allan o Faes Awyr Caerdydd erbyn hyn, ar ôl bod ar gau tan tua 4.00 brynhawn ddoe. Ond mae oedi o hyd ynglŷn â rhai teithiau.
Mae Trenau Arriva Cymru wedi dweud y bydd yna oedi gyda rhai o’u gwasanaethau nhw hefyd.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud bod disgwyl i’r amodau rhewllyd barhau yng Nghymru tan ar ôl y Nadolig.
Llun: Car wedi troi ger y Ganllwyd