Fe gafodd priodferch a gwas priodas eu saethu’n farw gan y priodfab yn ystod gwledd briodas, cyn iddo yntau ei ladd ei hun.
Roedd gwesteion yn y briodas yn Rio de Janeiro ym Mrasil wedi eu syfrdanu gymaint doedd yr heddlu ddim wedi gallu eu holi yn union wedi’r digwyddiad ddydd Sadwrn.
Ond mae gwefan newyddion Globio.com yn dyfynnu chwaer y briodferch sy’n methu â rhoi esboniad am y lladd ond yn dweud nad ffrae garwriaethol oedd ar fai.
Roedd y priodfab, Rogerio Damascena, 29 oed, wedi dweud wrth y gwesteion fod ganddo “syrpreis” iddyn nhw cyn dangos y gwn a saethu ei wraig newydd, Renata Coelho, 25, a’r gwas priodas, ei ffrind gorau, Marcelo Guimeres.
Yn ôl yr heddlu, roedd hi’n ymddangos fod y lladd wedi’i gynllunio ymlaen llaw gan bod Rogerio Damascena wedi cuddio’r gwn mewn fan.
Llun: Rio de Janeiro (CCA 3.0)