Mae’r tywydd rhewllyd yn dal i achosi anhrefn i bobol sy’n ceisio gadael gwledydd Prydain.
Mae teithwyr sydd wedi eu dal ym maes awyr Heathrow yn dweud bod yr amgylchiadau’n “ddychrynllyd” ac mae ciwiau o gymaint â milltir yn ceisio mynd ar drên yr Eurostar o St Pancras yn Llundain.
Fe gafodd rhai pobol eu rhybuddio y gallai gymryd hyd at ddydd Gwener iddyn nhw allu gadael – mae rhai wedi bod yn Heathrow ers pum niwrnod eisoes.
Mae’r cwmni meysydd awyr BAA eu hunain yn rhybuddio y bydd Heathrow’n wynebu mwy o oedi tan ar ôl dydd Nadolig.
Dim dadmer tan ar ôl y Nadolig
Bellach mae’r proffwydi tywydd yn rhybuddio na fydd dadmer tan Ŵyl San Steffan a hynny’n atal y gwaith o adfer y system drafnidiaeth yn Lloegr.
Ddoe, fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Philip Hammond, ei fod yn llacio rheolau sy’n gwahardd hedfan gyda’r nos.
Doedd dim un awyren yn cael hedfan allan o Faes Awyr Gatwick tan 6 fore heddiw ac mae gyrwyr yn wynebu ffyrdd rhewllyd unwaith eto gyda’r tymheredd yn cwympo hyd ata -17C yng ngogledd Lloegr.
Llun: Gorsaf Eurostar yn St Pancras