Mae’r heddlu’n dal i holi pump o ddynion o Gaerdydd ar amheuaeth o fod yn rhan o gynllwyn terfysgol.
Fe gafodd y pump eu harestio mewn cyrch gan bedwar heddlu mewn pedair dinas – y lleill oedd Birmingham, Stoke a Llundain.
Heddlu’r West Midlands oedd yn arwain yr ymchwiliad gyda chymorth yr heddluoedd lleol, gan gynnwys Heddlu De Cymru.
Fe ddywedodd Comisiynydd Cynorthwyol Heddlu Llundain, John Yates, bod yr arestio “yn hollol angenrheidiol”.
Mae’r heddlu’n dweud y gallai’r chwilio yn y gwahanol dai barhau am ddyddiau – roedd y pump wedi eu harestio yng Nglanyrafon a Threlái.
Y pump
Y gred yw bod y dynion o Gaerdydd yn dod yn wreiddiol o Bangladesh ac maen nhw rhwng 23 a 28 oed.
Doedd y plismyn yn y cyrch fore ddoe ddim yn arfog, sy’n awgrymu nad oedd unrhyw dystiolaeth bod gynnau neu ffrwydron yn y tai.
Y tro diwetha’ i heddlu gynnal cyrch o’r maint yma oedd tua naw mis yn ôl yng ngogledd Lloegr; bryd hynny fe gafodd yr holl ddynion eu rhyddhau heb gyhuddiad.
Fe gafodd yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, wybod ymlaen llaw am y cyrch.