Mae’r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, wedi cydnabod ei fod yn teimlo “embaras” ar ôl i newyddiadurwyr ei ddal yn condemnio’i bartneriaid Ceidwadol yn y Llywodraeth.
Roedd wedi dweud wrth ohebwyr cudd o’r Daily Telegraph y byddai’n fodlon ymddiswyddo a chwalu’r Llywodraeth pe bai’r Torïaid yn ei wthio’n “rhy bell”
Roedd bod mewn clymblaid fel bod mewn rhyfel, meddai, ac ymddiswyddo oedd y “dewis niwclear”, meddai un o weinidogion pwysica’r Democratiaid Rhyddfrydol.
‘Fel Mao’
Roedd y newyddiadurwyr wedi esgus eu bod nhw’n etholwyr iddo yn ei sedd yn Nhwickhenham ac wedi dod i’w weld mewn syrjeri.
• Roedd Vince Cable wedi beirniadu’r Ceidwadwyr am ruthro gormod o newid ac am wrthwynebu ei ymdrech ef i daro’r banciau’n galetach.
• Roedd y ffordd yr oedd y Ceidwadwyr yn diwygio’r Gwasanaeth Iechyd a llywodraeth leol yn debyg i chwyldro Mao Tse Tung yn China.
• Mae rhif 10 Downing Street eisoes wedi gwadu honiad arall – bod David Cameron eisiau cael gwared yn llwyr ar y taliadau tanwydd gaeaf i bobol hŷn.
Fe fydd y stori’n cynyddu’r pwysau ar y bartneriaeth rhwng y ddwy blaid yn y Glymblaid ond yn gysur i rai o gefnogwyr y Democratiaid Rhyddfrydol sy’n poeni nad yw eu cynrychiolwyr yn brwydro’n ddigon caled yn y Llywodraeth.
Y dyfyniad allweddol
“
Mae gen i ddewis niwclear; mae fel ymladd rhyfel. Maen nhw’n gwybod fod gen i arfau niwclear, ond does gen i ddim arfau confensiynol. Os byddan nhw’n fy ngwthio i’n rhy bell yna fe alla’ i gerdded mas a thynnu’r Llywodraeth i lawr, ac maen nhw’n gwybod hynny.” Vince Cable.
Llun: Vince Cable