Mae asiantaeth newyddion yn dweud bod mam o Drawsfynydd wedi lladd ei phlant ac wedyn gwneud amdani ei hun.

Yn ôl y Press Association, roedd Melanie Stevens, 36, wedi lladd y ddau fachgen, Philip James Andrew Stevens, 5, ac Isaac David Stevens, 2, ac yna wedi ei chrogi ei hun yn eu cartre’.

Dyw’r heddlu ddim wedi cyhoeddi unrhyw fanylion eu hunain. Cafodd y tri eu hadnabod yn swyddogol gan crwner gogledd orllewin Cymru, Dewi Pritchard Jones, heddiw.

Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi dod o hyd i’r tri yn farw yn y tŷ yng nghanol y pentre’ yn hwyr nos Sul ar ôl cael eu galw yno gan berthnasau pryderus.

Symud i Drawsfynydd

Roedd Melanie Stephens, a oedd yndod o Flaenau Ffestiniog, wedi symud i Drawsfynydd tua blwyddyn a hanner yn ôl.

Roedd ganddi bump o blant i gyd ac, yn ôl y PA, roedd y tri arall yn byw gyda’u tad.

Roedd yr asiantaeth hefyd wedi siarad gyda rhai pobol leol a’r rheiny’n dweud nad oedden nhw’n ymwybodol o unrhyw broblemau yn y teulu.

Llun: Trawsfynydd (Llywelyn 2000 CCA 3.0)