Fe fydd swyddogion Uwch Gynghrair Cymru yn trafod y syniad o ymestyn hanner cyntaf y tymor mewn cyfarfod yfory.
Mae nifer o gemau’r adran wedi cael eu gohirio dros yr wythnosau diwethaf ac mae pwysau ar y clybiau i chwarae eu gemau cyn i’r gynghrair rhannu’n dau ar 15 Ionawr.
Mae Llanelli yn wynebu chwarae deg gêm cyn ganol mis nesaf a Phrestatyn yn gorfod chwarae wyth.
Fe fydd hyn yn straen enfawr ar garfannau’r clybiau, ac mae rheolwr Llanelli, Andy Legg eisoes wedi galw ar drefnwyr y gynghrair i ymestyn rhan gyntaf o’r tymor.
“Mae ymestyn y tymor yn rhywbeth fyddwn ni’n edrych arno,” meddai pennaeth cystadleuaeth Cymdeithas Bêl Droed Cymru, Andrew Howard wrth Sgorio.
Ar hyn o bryd mae’r tywydd gaeafol yn codi amheuon dros gemau Hwlffordd yn erbyn Caerfyrddin ac Aberystwyth yn erbyn Airbus sydd fod cael eu chwarae nos yfory.