Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud eu bod yn disgwyl ychydig mwy o eira a glaw ar draws Gymru heno.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe fydd eira a glaw yng ngogledd Cymru gyda chawodydd yng ngorllewin a de’r wlad.
Ond mae disgwyl y bydd yr eira’n dod i ben erbyn dydd Iau gyda rhagolygon yn nodi y bydd yn ddiwrnod sych a chymylog.

Mae’r eira a’r lluwchio dros nos wedi effeithio ar nifer fawr o ffyrdd Cymru gyda nifer yn parhau i fod ar gau y prynhawn yma.

Ffyrdd ar gau

Yn ôl Traffig Cymru, dyma rai o’r ffyrdd sydd ynghau:

A476 rhwng Merthyr ac Aberhonddu – dargyfeiriadau mewn lle
A452 rhwng Llangollen a Llandegla
Y ffyrdd tros dir uchel ym mlaenau’r Cymoedd – yn y Rhigos, Bwlch a Maerdy.
Bwlch Llanberis
Bwlch yr Oernant
Yr A487 yn ardal Caernarfon
Y ffordd rhwng Llandegla a Bryneglwys
A4086- Nant Peris


Gwael iawn

Dyma rai o’r ffyrdd lle mae’r amgylchiadau’n wael iawn:

A477 i’r gorllewin o San Clêr
Y ffordd tros y Bannau rhwng Merthyr ac Aberhonddu
A470 rhwng Blaenau Ffestiniog a Betws y Coed
Yr A5 rhwng Bethesda a Llyn Ogwen
Yr M4 ger Porth Caerdydd lle mae cyfyngiadau cyflymder o 40mya
A470 rhwng Coryton ac Abercynon
Y ffordd o Gaerfyrddin i Lanybydder
A4212- Trawsfynydd
A494 rhwng Yr Wyddgrug a Rhuthun
A487:A497- Caernarfon
A498- Pen y pass
A487 rhwng Plwm a Synod Inn