Mae rhaglen fore This Morning ar ITV wedi osgoi cosb ar ôl i’r gyfwlynydd Ruth Langsford regi’n fyw ar yr awyr.

Yn ôl Ofcom, yr awdurdod rheoli cyfryngau, derbyniwyd nifer o gwynion gan wylwyr a glyweodd y gyflwynwraig 50 oed yn rhegi tra fod y camera ar olygfa arall.

“Hang on, we’re not there yet, f***,” oedd geiriau’r gyflwynwraig, wrth iddi redeg o un pen y stiwdio i’r llall ar gyfer eitem, gan faglu dros gebl trydan ar y ffordd.

Gan nad oedd hi yn yr olygfa a oedd yn cael ei ddarlledu ar y pryd, doedd hi ddim wedi sylwi bod ei meicroffon hi’n fyw.


Edifar

Dywedodd ITV wrth Ofcom eu bod nhw’n edifar am y rhaglen a ddarlledwyd ym mis Hydref, a bod “pob cyflwynydd yn ymwybodol iawn o’r angen i osgoi’r fath iaith yn ystod rhaglenni dydd.”

Erbyn i’r cynhyrchwyr gadarnhau bod y gair wedi ei ddarlledu, doedd hi ddim yn bosib i’r cyflwynwyr ymddiheuro yn syth ar y rhaglen, meddai ITV.

Gwneth Ruth Langford ymddiheurio ar Twitter yn ddiweddarach yn y dydd, ac ymddiheuro wrth wylwyr y rhaglen y diwrnod wedyn.

Roedd y gyflwynwraig a’i gŵr, Eamon Holmes, yn cyflwyno am yr wythnos yn lle Phillip Schofield a Holly Willoughby pan ddigwyddodd y camgymeriad, gan fod y cyflwynwyr parhaol ar wyliau hanner tymor.

Dim cyn naw

Dywedodd Ofcom fod y gair ynganwyd yn enghraifft o’r iaith “fwyaf tramgwyddol”, ac na ddylai gael ei ddarlledu cyn naw o’r gloch y nos.

“Rydyn ni’n deall fod y rhaglen wedi cael ei ddarlledu’n fyw, ac wedi nodi amgylchiadau’r digwyddiad, yr amrywiol ymddiheiriadau a roddwyd gan y gyflwynwraig, a’r ymdrech i dynnu’r iaith o’u hail-ddarllediadau ar lein.

“Mae Ofcom, felly, yn ystyried fod y mater wedi ei ddatrys.”