Mae arweinydd Belarws wedi cael ei gyhuddo o dwyll a thrais yn ystod etholiad sydd wedi ennill tymor arall iddo fel arlywydd.

Yn ôl llywodraethau rhyngwladol, mae llwyddiant yr Arlywydd Alexander Lukashenko yn hynod o ddiffygiol.
Cyhoeddwyd mai’r Arlywydd Lukashenko oedd yr enilydd ddoe, ar ôl derbyn bron i 80% o’r bleidlais mewn cyfrifiad cynnar.

Fe fydd yr arweinydd, sydd wedi bod wrthy llyw am 16 mlynedd yn barod, yn rheoli am ei bedwerydd tymor os yw’r canlyniadau yn cael eu derbyn.

Beirniadaeth ryngwladol

Ond mae Sefydliad Diogelwch a Chyd-weithrediad Ewrop wedi datgan bod y cyfri yn y bleidlais ddoe yn “ddrwg, neu’n ddrwg iawn,” yn o leia’ hanner etholaethau’r wlad.

Mae’r sefydliad yn beiriandu’r modd treisgar y bu’r heddlu reiot yn gwasgaru’r rali wedi’r bleidlais, ac mae arweinyddion Ewopeaidd ac Americanaidd wedi condemnio’r Arlywydd am y trais yn ebryn ei gyd-ymgeiswyr arlywyddol a’u cefnogwyr wedi’r bleidlais.

Mae’r Arlywydd Lukashenko yn rheoli Belarws mewn ffordd Sofietaidd, unbenaethol iawn yn ôl rhai, gan fod y genedl o 10 miliwn, ar ymylon Ewrop, yn cael ei rheoli’n llym gan y wladwriaeth. Mae rheolaeth y wladwriaeth yn amlwg iawn ar wleidyddiaeth, diwydiant a chyfryngau.

Draenen yn ystlys Ewrop

Mae sefyllfa gwleidyddol y wlad wedi bod yn gywilydd mawr i’r Undeb Eropeaidd dros y blynydoedd.

Roedd yr Undeb Ewropeaidd wedi cynnig 3 biliwn ewro o gymorth i Felarws ar yr amod fod yr etholiad yn cael ei ysytried yn deg ag yn rhydd.

Ond mae’r cyhuddiadau diweddaraf wedi rhwygo llywodraeth Belarws ym mhellach oddi wrth Ewrop.

Mae llywodraeth y wlad ar delerau da gyda’r Kremlin ar hyn o bryd, am fod Rwsia yn darparu olew i’r wlad yn rhatach na phris y farchnad – cytundeb, a chyfeillgarwch, sydd werth biliynau’n fwy i Felarws na chynnig yr Undeb Ewropeaidd.