Mae 26 o bobol wedi cael eu lladd heddiw, wedi i fws yn llawn twristiaid gael damwain yn Malaysia.

Roedd y twristiaid ar eu ffordd i Kuala Lumpur er mwyn treulio penwythnos ar ynysoedd Cameron pan gollwyd rheolaeth ar y bws,. Fe darodd ymyl y ffordd, troi drosodd, cyn glanio ger llethr creigiog.

Mae’r heddlu yn amau bod y gyrrwr yn mynd yn rhy gyflym, neu fod y brêc wedi methu.

26 wedi marw

Daeth achubwyr o hyd i 22 corff y tu mewn i’r bws ei hun, tra bod pedwar arall wedi marw ar y ffordd i’r ysbyty. Cafodd rhyw ddwsin o deithwyr eraill eu hanafu yn y digwyddiad.

Y cyflymder cyfreithiol uchaf ar ffyrdd Malaysia yw 70 milltir yr awr, ond mae gor-yrru yn gyffredin yno.

Mae llawer yn dweud fod y cwmniau bysiau eu huain yn gyfrifol am nifer o ddamwieniau o’r math hyn, gan eu bod nhw’n cyflogi staff dibrofiad, ac weithiau heb hyd yn oed drwydded. Mae’n debyg fod rhai hefyd yn defnyddio cyffuriau i’w cadw nhw’n effro.