Fe fydd y Prif Weinidog David Cameron yn cwrdd ag arweinyddion undebau heddiw wrth i’r dicter gynyddu dros doriadau a cholli miloedd o swyddi yn y sector cyhoeddus.

Yn ôl adroddiadau, mae David Cameron wedi gwahodd arweinyddion yr undebau mwyaf, yn ogystal â’r Gynghres Undebau Llafur y TUC, i Stryd Downing am drafodaethau.

Mae disgwyl i Len McCluskey, arweinydd Unite, yr undeb mwyaf yng ngwledydd Prydain, fod yn rhan o’r trafodaethau.

Dyma fydd y cyfarfod swyddogol cyntaf rhwng Prif Weinidog Torïaidd ag arweinyddion yr undebau mewn 25 mlynedd.

Y tro diwethaf i gyfarfod o’r math gymryd lle oedd ar ddiwedd streic y glowyr yn 1985 pan wnaeth ysgrifennydd cyffredinol y TUC, Norman Willis, gyfarfod â Margaret Thatcher.

Ni wnaeth John Major gyfarfod yn swyddogol gyda’r TUC yn ystod ei saith mlynedd yn Stryd Downing, ond fe gynhaliodd gyfarfodydd preifat gydag arweinyddion.

Fe ddaw’r cyfarfod wrth i undebau baratoi ar gyfer ymgyrch yn erbyn y toriadau gyda’r TUC yn cynllunio gwrthdystiad enfawr yn Llundain ym mis Mawrth.