Mae pum dyn o Gaerdydd wedi cael eu harestio mewn cyrch gwrth-derfysgaeth yn gynnar y bore yma.

Mae’r pump ymhlith cyfanswm o ddwsin o ddynion rhwng 17 a 28 oed sydd wedi eu harestio ar draws Cymru a Llo heddiw.

Roedd y cyrch yn cael ei arwain gan Heddlu Llundain, ac roedd uned gwrth-derfysgaeth Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr hefyd yn rhan o’r trefniadau. Roedd Heddlu De Cymru hefyd yn rhan o’r ymgyrch.

Fe gafodd pedwar dyn o Stoke-on-Trent, ynghyd â thri o Lundain, hefyd eu harestio ar amheuaeth o gomisiynu neu baratoi gweithred o derfysgaeth.

“Fe gafodd y dynion eu harestio yn eu cartrefi, neu’n agos at eu cartrefi, oni bai am un dyn o Stoke-on-Trent a gafodd ei arestio yn Birmingham,” meddai Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr mewn datganiad heddiw.

Mae’r cartrefi hynny bellach yn cael eu harchwilio, ac mae’r dynion yn cael eu dal mewn celloedd yn Llundain, Gogledd Orllewin Lloegr a Gorllewin Canolbarth Lloegr.