Mae’r Athro Merfyn Jones wedi cael ei benodi’n Gadeirydd cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bydd y Coleg yn gweithio gyda a thrwy’r holl brifysgolion yng Nghymru i gynyddu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio eu cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac fe fydd ar waith yn ffurfiol ar Ebrill 1, 2011, yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi 2011.

“Anrhydedd fawr yw ymgymryd â’r rôl allweddol hon yn esblygiad addysg uwch cyfrwng Cymraeg,” meddai Merfyn Jones, a fu’n Is-Ganghellor Coleg Prifysgol Bangor tan 2009.

“Ar ôl bod yn addysgu cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg am bron ugain mlynedd, mae twf a chyfnerthiad pellach addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn fater sy’n agos iawn at fy nghalon, a dw i’n edrych ymlaen yn hyderus at wneud cynnydd arwyddocaol a gwerthfawr yn y dyfodol.”