Mae Golwg360.com mewn cydweithrediad â chwmni Recordiau Aran yn cynnig CD newydd Ffrindiau gan Emyr a Siân Wyn Gibson, yn wobr ar gyfer ein cystadleuaeth dros gyfnod y Nadolig ar flwyddyn newydd.
I gael cyfle i ennill y CD atebwch y cwestiwn canlynol:
Pa gymeriad mae Emyr Wyn Gibson yn chwarae yn y gyfres deledu boblogaidd Rownd a Rownd?
Anfonwch eich ateb, ynghyd â’ch enw a rhif ffôn i cystadleuaeth@golwg.com erbyn y 4ydd o Ionawr 2011.
Manylion am y wobr
Daw ffrindiau Emyr a Siân ynghyd i gyfrannu i’w hail gasgliad o ffefrynnau Cymraeg a Saesneg.
Mae’n amlwg bod byd y brawd a’r chwaer yn llawn o gerddoriaeth gan fod yna gyfoeth o gerddorion adnabyddus iawn ymhlith eu ffrindiau sydd, yn cynnwys Bryn Terfel, Elin Llwyd, Catrin Alaw, David King (corn), Annette Bryn Parri (piano), Steve Pablo (gitâr) ac Owain Gethin Davies (telyn).
Mwy o fanylion a’r www.traciaucymraeg.com