Mae o leia’ 28 o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i beipen olew ffrwydro mewn dinas yng nghanolbarth Mecsico.
Roedd 13 o’r rhai a fu farw’n blant ac mae’r awdurdodau yn beio lladron oedd wedi ceisio dwyn olew o’r beipen.
Fe gafodd o leia’ 52 o bobol eu hanafu ac mae mwy na 200 wedi ffoi i lochesau.
Mae’r ffrwydrad wedi effeithio ar ardal o tua thair milltir o radiws yn ninas San Martin Texmelucan gyda chartrefi, ceir a strydoedd yn cael eu rhuddo gan y tân.
Mae ymchwilwyr wedi canfod twll yn y beipen ac offer i dynnu olew ohoni.
Fe ddechreuodd yr olew lifo i lawr strydoedd y ddinas ac i mewn i afon gyfagos. Ar ryw adeg wedi hynny, roedd rhywbeth wedi tanio’r olew ac achosi’r ffrwydrad.
Mae arlywydd Mecsico, Felipe Calderon, wedi ymweld â’r ddinas i asesu’r difrod, ac fe ddywedodd y byddai llywodraeth yn rhoi cefnogaeth lawn i’r ymchwiliad i ganfod y sawl sy’n gyfrifol. Does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn.
Mae’r cwmni olew, Petroleos Mexicanos neu Pemex wedi dweud eu bod nhw wedi cau’r beipen olew.
Llun: Felipe Calderon, yr Arlywydd (WEF)