Mae disgwyl y bydd hyd at 10cm yn rhagor o eira’n disgyn ar dde Cymru a de-orllewin Lloegr dros nos.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae’r eira’n debygol o symud tua’r gogledd a’r dwyrain yn ddiweddarach, ac mae’r tymheredd isel am olygu na fydd unrhyw eira’n meirioli dros y dyddiau nesaf.

Mae’r gymdeithas foduro’n rhybuddio gyrwyr i fod ar eu gwyliadwriaeth fore yfory wrth i bobl geisio dychwelyd i’w gwaith.

“Gyda rhagolygon o fwy o eira heno a thymheredd isel iawn dros nos, mae’r ffyrdd am fod yn hynod o beryglus ac fe allen nhw fod yn farwol,” meddai llefarydd ar eu rhan.

Does dim rhagolygon y bydd pethau’n gwella dros yr wythnos nesaf.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gall fod yn oerach fyth erbyn dydd Mawrth, dydd byrraf y flwyddyn, pryd y gall y tymheredd ddisgyn i lai na minws 20 gradd Celsius mewn rhai mannau.

Os bydd ail hanner y mis mor oer â’r hanner cyntaf, hwn fydd y mis Rhagfyr oeraf ers 1910 – gan mlynedd yn ôl.