Mae llywodraeth Prydain wedi cyflwyno papur i arweinwyr gwleidyddol Gogledd Iwerddon yn amlinellu cynigion i ddatganoli rheolaeth dros drethi corfforaethol i senedd Stormont.
Fe fydd y cynigion yn cael eu hystyried gan y pleidiau dros y Nadolig, ac fe fydd proses o ymgynghori â’r cyhoedd yn cychwyn yn y flwyddyn newydd.
Mae Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Owen Paterson, yn awyddus i gyflwyno mesurau a fyddai’n galluogi Gogledd Iwerddon i gystadlu yn erbyn treth gorfforaethol isel Gweriniaeth Iwerddon.
Cyfradd treth gorfforaethol y Weriniaeth yw 12.5% – o gymharu â 28% yn y Deyrnas Unedig.
Posibiliadau
“Dw i’n amlwg yn frwd iawn ynghylch posibiliadau hyn,” meddai Owen Paterson.
“O weld sut mae Gweriniaeth Iwerddon wedi brwydro i’r eithaf i ddal gafael ar eu hawl i osod treth a thyfu eu cacen eu hunain, a dod â buddsoddiad tramor i mewn, fe fyddwn i’n gobeithio y byddai gwleidyddion lleol, petaen nhw’n cael y grym yma, yn eofn ac yn cymryd camau gwirioneddol radical.”
Mae dadleuon wedi bod ynghylch yr angen i Ogledd Iwerddon gael mwy o hyblygrwydd i gystadlu â’r Weriniaeth, a hefyd i helpu datblygu ei sector preifat cymharol fach a helpu lleihau ei sector cyhoeddus.
Fe allai rhannau eraill o Brydain neu’r Undeb Ewropeaidd wrthwynebu’r cynigion – ac efallai hefyd y bydd gwleidyddion Stormont yn wyliadwrus o’r perygl o doriadau i grant bloc Gogledd Iwerddon yn sgil yr hawl i osod trethi.
Llun: Senedd Stormont, Belffast