Gyda thorf o ddim ond 1,236 i’w gwylio, collodd Dreigiau Casnewydd Gwent 37-10 i’r Wasps yn Adams Park heddiw.
Dechreuodd y gêm yn araf, a llwyddodd y Dreigiau i reoli’r hanner cyntaf gyda’r sgôr yn gyfartal 3-3 ar hanner amser.
Newidiodd pethau’n llwyr yn yr ail hanner, fodd bynnag.
Gorffenodd y Wasps y gêm gyda phwynt bonws ar ôl sgorio pedwar cais yn yr ail hanner, a chafodd Dave Walder ei enwi’n Ddyn y Gêm ar ôl cicio 17 o bwyntiau i’w dîm.
Mae chweched buddugoliaeth olynol y Wasps yn eu rhoi nhw dri phwynt clir ar y blaen i Toulouse, ac yn cadw eu gobeithion i gyrraedd y rowndiau go-gynderfynol.