Colli oedd hanes Gleision Caerdydd yn stadiwm Dinas Caerdydd heddiw ar ôl i Northampton sgorio’u hunig gais saith munud cyn diwedd y gêm.
Cyn hynny, roedd hi’n ymddangos mai’r Gleision oedd y ffefrynnau i ennill, gyda chais yn fuan wedi hanner amser gan Richard Mustoe, a 14 o bwyntiau o droed Dan Parks yn glod i’w hymdrechion.
Ond fe fu’n rhaid i’r Gleision dalu’r pris ar ôl i gerdyn coch gael ei roi i Xavier Rush yn yr ail hanner am dacl beryglus.
Dyma’r gêm gartref gyntaf i Gaerdydd ei cholli mewn 13 o gemau.