Mae’r Ysgrifennydd Busnes Vince Cable wedi addo “gweithredu’n gadarn” yn erbyn taliadau bonws gormodol gan fanciau ym Mhrydain.
Dywed ei fod yn benderfynol o gyfyngu ar daliadau gweithwyr y Ddinas yn Llundain – ac y byddai’n ystyried codi treth ar y banciau fel un ffordd o gael y maen i’r wal.
“Ddylai banciau ddim bychanu’n penderfyniad i weithredu,” meddai Vince Cable.
“Maen nhw’n twyllo’u hunain os ydyn nhw’n credu nad yw’r Llywodraeth am gymryd hyn o ddifrif.
“Mae amryw o ffyrdd o drethu banciau. Mae hynny’n amlwg yn opsiwn ac mae’r banciau’n deall hynny.”
Dywedodd y bydd yn gwrthod “blacmel” banciau sy’n bygwth symud i wledydd lle mae cyfundrefnau treth mwy ffafriol.
“Dydyn ni ddim am gymryd ein bwlio,” meddai. “Allwch chi ddim rhoi i mewn trwy’r amser. Does arnon ni ddim eisiau colli cwmnïau o Brydain. Ond gyda chwmnïau sy’n symudol yn rhyngwladol, mae rhai’n dod ac eraill yn mynd.”
Fe fydd y Canghellor George Osborne a Vince Cable yn cyfarfod prif weithredwyr y prif fanciau’r wythnos yma – ac fe fydd taliadau bonws gormodol a benthyca i fusnesau bach am fod ymysg y prif bynciau trafod.
Llun: Yr Ysgrifennydd Busnes Vince Cable