Mae eira trwm wedi achosi anhrefn ledled Ewrop heddiw, gan gyfyngu ar deithiau awyrennau, arafu trenau cyflym a chreu problemau ar y ffyrdd.
Mae teithwyr wedi gorfod cysgu dros nos mewn meysydd awyr wrth i gannoedd o deithiau awyrennau gael eu canslo yn Frankfurt, Paris ac Amsterdam – rhai o feysydd awyr prysuraf Ewrop.
Gydag eira trwm yn gorchuddio Paris a gogledd Ffrainc, mae trenau TGV ac Eurostar yn gorfod teithio llawer arafach nag arfer.
Mae stormydd o eira a rhew wedi taro gogledd yr Eidal hefyd, gan gau maes awyr Florence.
Yn Sgandinafia, lle mae’r tymheredd wedi bod islaw minws 20 gradd celsius mewn rhai mannau, mae eira wedi bod yn pentyrru ar ffyrdd rhewllyd yn dilyn cawodydd trwm o eira a gwyntoedd cryfion. Er bod y meysydd awyr yn agored mae llawer o oedi ar y rheilffyrdd yn Sweden.