Lai nag wythnos ar ôl lansio’r ymgyrch Ie dros Gymru mae’n ymddangos fod tensiynau eisoes wedi codi ymhlith cefnogwyr datganoli.

O edrych ar drydar rhai Aelodau Cynulliad ar y wefan sgwrsio Twitter, does fawr o ysbryd brawdgarol rhyngddyn nhw chwaith.

Mae’r Democrat Rhyddfrydol Peter Black wedi ymddiheuro ar ôl galw’r Gweinidog Addysg Leighton Andrews yn ‘cretin’, wrth ymateb i sylw gan y Gweinidog yn cyfeirio ato fel ‘amatur’.

Mae’n ymddangos mai prif asgwrn y gynnen yw cyhuddiad fod y Blaid Lafur yn ceisio defnyddio’r ymgyrch Ie dros Gymru i droi’r dŵr i’w melin ei hun.

Caiff hyn ei fynegi hefyd yn nhrydar dwy o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru, Bethan Jenkins a Leanne Wood.

‘Colli cefnogaeth’

Mae amheuon ehangach yn cael mynegi’n fwy difrifol gan Peter Black, Aelod Cynulliad dros Dde Orllewin Cymru, ar ei flog.

“Mae peryg os bydd yr ymgyrch ‘Ie’ yn troi’n grwsâd yn erbyn Llywodraeth Glymblaid y Deyrnas Unedig,” meddai. “Os bydd hynny’n digwydd fe fydd yn colli cefnogaeth aml-bleidiol ac fe fydd â llai o siawns ennill.”

Mae hefyd yn feirniadol o’r ffordd y mae taflen gyntaf Ie dros Gymru’n clymu’r pwnc o ddiwygio fformiwla Barnett i bleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm.

“Mae rhoi’r argraff i bobl y bydd popeth yn iawn os byddan nhw’n pleidleisio ‘Ie’ ar y trydydd o Fawrth yn camu ar lwybr llithrig tuag at ffraeo ymysg y pleidiau a gadael yr ymgyrch yn agored i gyhuddiadau o gamarwain pobl,” meddai.

Llun: Y Gweinidog Addysg Leighton Andrews