Fe fydd y Llywodraeth yfory’n cyhoeddi’r dewis sy’n cael ei ffafrio ganddi ar gyfer union lwybr rheilffordd gyflym newydd o Lundain i Birmingham.

Mae’r cyhoeddiad yn debyg o fod yn un dadleuol, gan y bydd y rheilffordd newydd, HS2, yn torri trwy amryw o etholaethau Torïaidd, yn eu plith etholaeth Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn swydd Buckingham.

Roedd Cheryl Gillan wedi rhybuddio fis yn ôl y byddai’n pleidleisio yn erbyn y Llywodraeth er mwyn gwarchod buddiannau ei hetholaeth Chesham ac Amersham.

Mae Aelodau Seneddol Torïaidd eraill hefyd, yn ogystal â grwpiau trigolion a chynghorau lleol, wedi mynegi pryderon. Un o agweddau mwyaf dadleuol y cynllun yw ei fod yn torri trwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ym mryniau Chiltern.

Os caiff y rheilffordd ei hadeiladu, fe fyddai trenau’n teithio ar gyflymder o 250 milltir yr fawr, gan dorri rhwng 30 a 50 munud oddi ar yr amserau teithio rhwng Llundain a Birmingham.

Fe fyddai’n golygu hwb anferthol i’r economi ac yn llesol i’r amgylchedd yn ôl y Llywodraeth. Ond mae gwrthwynebwyr y cynllun yn codi amheuon ynghylch hyn ac yn honni nad yw’n werth y gost a allai fod cymaint â £30 biliwn.

Y bwriad yw i’r gwaith ddechrau ar y rheilffordd yn 2015.

Llun: Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan – pryderu am ei hetholaeth