Rhaid i archfarchnadoedd ymddwyn yn gyfrifol neu wynebu’r bygythiad o weithredu pellach yn eu herbyn, yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru.
Daw rhybudd yr undeb ar ôl i’r archfarchnad Asda gymryd gwaharddeb llys yn erbyn cannoedd o brotestwyr a fu’n cymryd rhan mewn gwrthdystiadau ar safleoedd y cwmni yng Nghas-gwent, Grangemouth a Skermersdale.
Roedd y protestiadau wedi cael eu trefnu gan ymgyrch Farmers For Action (FFA) i ddangos gwrthwynebiad i’r ffordd y mae archfarchnadoedd fel Asda yn cynnig disgownts ar laeth.
“Mi gawson ni’n sicrhau bod yr FFA wedi cydymffurfio â’r gyfraith, ac mae gan gynhyrchwyr bob hawl i brotestio’n heddychlon yn erbyn y math yma o ymddygiad gan y siopau mawr,” meddai cadeirydd pwyllgor llaeth Undeb Amaethwyr Cymru, Eifion Huws.
Er bod y protestiadau’n ymwneud yn bennaf â’r arfer o ddisgowntio llaeth – sy’n golygu gostyngiad yn y prisiau mae ffermwyr yn eu derbyn – maen nhw’n tynnu sylw hefyd ar angen ehangach i siopau ymddwyn yn gyfrifol tuag at eu cyflenwyr, yn ôl Eifion Huws.
“Yn absenoldeb unrhyw weithredu gan y llywodraeth i sicrhau mwy o degwch, mi fydd y rhai y mae eu bywoliaeth yn cael eu bygwth gan yr archfarchnadoedd yn teimlo nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis arall ond protestio.
“Tra bod busnesau eraill yn dioddef effeithiau’r dirwasgiad a’r toriadau, does dim diwedd ar elw’r archfarchnadoedd mawr, sy’n amlygu’r diffyg cydbwysedd anferthol o fewn y gadwyn gyflenwi.”
Llun: Eifion Huws