Daeth i’r amlwg nad oes unrhyw warant yng nghynlluniau’r llywodraeth i breifateiddio’r Post Brenhinol y bydd llun y Frenhines yn parhau ar stampiau’r dyfodol.
Yn ôl papur newydd y Mail on Sunday, mae Buckingham Palace yn flin nad yw’r ddeddfwriaeth breifateiddio’n sicrhau parhad y traddodiad sy’n mynd yn ôl i’r stamp cyntaf un, y Penny Black, yn 1840.
Ond yn ôl y gweinidog sy’n gyfrifol am wasanaethau’r Post, Ed Davey, a sylwodd ar y diffyg yn y ddeddfwriaeth, roedd yn “hyderus iawn” y byddai pen y Frenhines yn aros – hyd yn oed petai’r Post Brenhinol yn cael ei werthu i gwmni tramor.
“Hunanladdiad masnachol fyddai gollwng pen y Frenhines,” meddai.
Mae gweinidog busnes yr wrthblaid, John Denham, fodd bynnag, yn beirniadu’r llywodraeth am gyflwyno deddfwriaeth mor amlwg.
“Mae’r ffaith nad ydyn nhw wedi trafferthu diogelu pen y frenhines ar ein stampiau’n dangos pa mor benderfynol ydyn nhw i werthu’r Post Brenhinol cyn gynted ag sy’n bosibl ac am gymaint o arian ag sy’n bosibl,” meddai.
Mae disgwyl i gwmnïau o’r Almaen a’r Iseldiroedd fod ymysg y prynwyr sydd â diddordeb.
(Llun: Stampiau Prydain ddoe a heddiw – o wefan y Post Brenhinol)