Cafodd Americanes ei lladd wrth iddi hi a’i ffrind o Brydain gael eu trywanu mewn ymosodiad y tu allan i Jeriwsalem ddoe.

Cafodd y Brydeinwraig, Kaye Wilson, ei hanafu’n ddrwg yn yr ymosodiad.

Fe ddywedodd Kaye Wilsom wrth yr heddlu fod dau Arab wedi ymosod arnyn nhw wrth iddyn nhw gerdded mewn coedwig gerllaw.

Roedd hi wedi llwyddo i oroesi trwy gymryd arni ei bod hi wedi marw a ffoi wedyn i faes parcio.

Mae’r Americanes a gafodd ei lladd wedi cael ei henwi fel Christine Logan.

Meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Fe wyddon ni fod dinesydd Prydeinig mewn ysbyty yn Jeriwsalem ac rydym yn barod i gynnig cymorth iddi os bydd angen.”

Llun: Jeriwsalem (o wefan Wikipedia)