Mae 35 o bobol wedi eu lladd a 20 arall ar goll ar ôl damwain rhwng dau gwch ym Mangladesh.
Yn ôl papur lleol, merched a phlant oedd y rhan fwya’ sydd wedi marw wrth i gwch yn cario teithwyr daro’n erbyn cwch nwyddau ar afon Surma yng ngogledd-orllewin y wlad.
Fe fu pobol leol yn chwilio yn y tywyllwch am ragor o gyrff ar ôl y ddamwain a ddigwyddodd tua 110 o filltiroedd i’r gogledd o’r brifddinas Dhaka.
Mae damweiniau cwch yn digwydd yn gyson ym Mangladesh, gwlad lle mae 230 o afonydd. Afon Surma yw un o’r rhai mwya’.
Llun: Map yn dangos Afon Surma yng ngogledd orllewin Bangladesh (CCA 3.0)