Fydd yr un awyren yn glanio ym maes awyr Heathrow heddiw, wrth i reolwyr geisio delio ag effeithiau’r eira ddoe a rhew trwm dros nos.
Roedd y maes awyr ar gau’n llwyr ddoe a dim ond ychydig awyrennau fydd yn cael gadael heddiw.
Mae yna filoedd o bobol wedi bod yno dros nod, gyda rhai’n treulio oriau ar awyrennau ac wedyn yn clywed fod y daith wedi’i chanslo.
Y bwriad yw ailagor y maes awyr yn llawn fory ond mae cwmni’r meysydd awyr, BAA, yn rhybuddio pobol i djecio gyda’u cwmni teithio cyn mentro draw.
Roedd rhai o feysydd awyr eraill gwledydd Prydain wedi cael eu heffeithio tan y tywydd ddoe ac fe fydd effaith hynny’n parhau heddiw, gyda’r disgwyl bod cymaint â 4 miliwn o bobol wedi bwriadu hedfan dramor tros y gwyliau.
Rhew yw’r broblem fwya’
Roedd yna eira eto mewn ardaloedd fel Swydd Rhydychen ond y rhew oedd y broblem fwya’ tros nos gyda’r tymheredd yn cwympo i 19 gradd o dan bwynt rhewi yn Pershore yn y Midlands.
Fe gafodd tri o bobol eu lladd oherwydd y tywydd ddoe – un ferch yn marw ar sled a mam a’i mab 10 oed yn cael eu lladd mewn damwain car.
Dyma’r eira’ tryma’ cyn y Nadolig ers gaea’ mawr 1981 a’r hanner cynta’ oera’ i fis Rhagfyr ers dechrau cadw cofnodion yn 1910.
A oes angen gwario rhagor?
Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth, Philip Hammond, wedi gofyn am gyngor gan brif wyddonydd y Llywodraeth er mwyn gwybod a oes angen gwario rhagor i baratoi am dywydd caled.
Mae wedi cael ei feirniadu gan y Blaid Lafur am fethu â gwneud digon.
Llun: Maes awyr Heathrow