Mae cyn lefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru’n gobeithio y bydd ei ddatganiad cyhoeddus ei fod yn hoyw yn help i Aelodau Seneddol heddiw.

Fory, fe fydd Nigel Evans, y Dirprwy Lefarydd ac AS Dyffryn Ribble, yn helpu i lansio grŵp seneddol i helpu a rhoi cefnogaeth i ASau hoyw.

Dyma’r tro cynta’ i’r gwleidydd o Abertawe gydnabod ei rywioldeb, er bod hynny’n wybyddus i lawer yn San Steffan.

Fe ddaeth ei ddatganiad, meddai, ar ôl i Aelod Seneddol Llafur fygwth datgelu’i gyfrinach – fe benderfynodd nad oedd am adael i hynny gael ei ddefnyddio yn ei erbyn.

Fe ddywedodd hefyd ei fod yn edifar am gefnogi cynigion i gyfyngu ar hawliau pobol hoyw yn y gorffennol.

‘Ofni’r canlyniadau’

“Dw i ddim eisiau i ASau eraill wynebu’r math yna o wenwyn eto,” meddai Nigel Evans. “Dw i’n siŵr bod rhagor o ASau hoyw a fyddai’n hoffi bod yn agored am eu rhywioldeb ond sy’n ofni’r canlyniadau.”

Mae Nigel Evans, sy’n dal i fod yn berchen ar siop gyfleus y teulu yn Abertawe, wedi bod yn aelod hefyd o’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ac ef oedd ar frig y pôl yn yr etholiad ar gyfer Dirprwy Lefarwyr.

Fe ddywedodd wrth bapur y Mail on Sunday ei fod wedi trafod gyda’r chwaraewr rygbi rhyngwladol, Gareth Thomas, cyn gwneud ei gyhoeddiad. Roedd yntau wedi dod ‘mas’ yn ddiweddar.

Mae gwleidyddion hoyw eraill, gan gynnwys AS y Rhondda, Chris Bryant, wedi croesawu’r cyhoeddiad.

Llun: Nigel Evans yn y Senedd (o’i wefan)