Mae’r Llywodraeth yn dal i rybuddio bod amodau gyrru’n beryglus ar rai o brif ffyrdd Cymru, gan gynnwys yr M4 a’r A55.
Er nad oedd llawer o eira ychwanegol tros nos, mae wedi rhewi’n galed ac mae lluniau camerâu traffig yn dangos bod eira ar yr ymylon a rhwng y lonydd.
Yr unig ffyrdd sy’n hollol gau, yn ôl Traffig Cymru, yw’r tair ffordd fynydd o’r Cymoedd – y Rhigos, Bwlch a Maerdy – ond mae ffyrdd eraill tros dir uchel, gan gynnwys yr A470 tros y Bannau, Hewl Blaenau’r Cymoedd a Bwrlch y Gerddinen ger Blaenau Ffestiniog yn “anodd”.
Mae Maes Awyr Caerdydd yn agored ond mae yna rybudd o beth oedi ar rai teithiau oherwydd problemau mewn meysydd awyr eraill yng ngwledydd Prydain neu Ewrop.
Rhew yw’r peryg mwya’ yng Nghymru yn ystod y dyddiau nesa’ yn ôl y rhagolygon, er mai Bangor fydd un o’r llefydd cynhesa’ yng ngwledydd Prydain heddiw – yn cyrraedd tymheredd chwilboeth o ddwy radd.
Llun: Yr A55 ger Bae Colwyn tua 7.00 y bore (Traffig Cymru)