Y Gweilch 19 – 15 Munster
Mae’r Gweilch wedi cadw eu gobeithion yng Nghwpan Heineken yn fyw ar ôl i Dan Bigger gicio’i ffordd i fuddugoliaeth dros Munster yn Abertawe.
Ciciodd Biggar bedair cic gosb ac un trosiad, gan ychwanegu at gais Mike Phillips, i sicrhau eu bod nhw’n dal yn y ras ym mhwll 3.
Sgoriodd Munster mwy o geisiau, drwy’r prop Tony Buckley a’r canolwr Keith Earls, ac fe ychwanegodd Ronan O’Gara gic gosb a throsiad.
Ond doedd gan y Gwyddelod ddim ymateb i sgrym nerthol y Gweilch.
Does dim gwybod pwy fydd yn ennill y grŵp nawr â’r Gweilch, Munster a Toulon yn cystadlu am le yn yr wyth olaf.
Fe wnaeth system gwresogi danddaearol Stadiwm Liberty ei waith, gan sicrhau bod y gêm yn mynd yn ei flaen er bod De Cymru wedi ei orchuddio gydag eira dros nos.