Sheffield United 1 – 0 Abertawe

Ched Evans gipiodd y gôl fuddugol wrth i Sheffield United dechrau bywyd ar ôl Gary Speed gyda buddugoliaeth gartref dros Abertawe yn Bramall Lane.

Penodwyd John Carver yn hyfforddwr dros dro yn dilyn y cyhoeddiad y bydd Speed yn rheolwr ar Gymru.

Tarodd Evans toc cyn yr egwyl gan sicrhau tri phwynt allweddol i’r Blades sy’n brwydro i osgoi mynd i lawr, a rhoi ergyd i obeithion Abertawe sy’n anelu at esgyn i’r uwch gynghrair.

Roedd tîm Brendan Rodgers wedi gobeithio symud i’r ail safle ond oherwydd yr eira dim ond tua 50 o’u cefnogwyr oedd yno i’w hysbrydoli yn Bramall Lane.

I’r rhai a oedd wedi gwneud y daith doedd yna fawr ddim i’w weld cyn i asgellwr y Blades, Stephen Quinn, roi’r bêl yn y rhwyd ar ôl 10 munud, cyn i’r dyfarnwr benderfynu ei fod o’n camsefyll.

Cyfrannodd Scott Sinclair yn helaeth i ymosodiadau prin Abertawe, ac roedd yn edrych yn beryglus wrth dorri i lawr y chwith, ond doedd dim digon o bŵer yn ei ergydion i drafferthu Steve Simonsen yn y gôl.

Dyrchafwyd prynhawn gwael o bêl-droed gan Ched Evans, a darodd y bel heibio i Dorus De Vries i mewn i’r gornel.

Fe wnaeth Rodgers newid dwbl yn ystod yr egwyl, gyda Craig Beattie a Mark Gower yn colli eu lle i Jermaine Easter a Darren Pratley.

Saethodd Sinclair bel hir i fol Steve Simonsen wrth i Abertawe geisio bach pwynt.

Ond er mai Abertawe oedd yn rheoli yn y munudau olaf bu bron i Sheffield United gael ail gol drwy Ched Evans â dim ond tri munud i fynd, ond llwyddodd Dorus De Vries i orchuddio’r bel ger y postyn.