Mae sylfaenydd Wikileaks, Julian Assange, wedi dweud heddiw fod ei fywyd yn y fantol wrth iddo baratoi i frwydro yn erbyn cais i’w anfon i Sweden.

Dywedodd Julian Assange, ryddhawyd ar fechnïaeth ym Mhrydain echdoe, fod yna “fygythiad difrifol” i’w fywyd.

Roedd yn siarad y tu allan i dŷ cyfaill ger Diss, Norfolk, ble mae’n aros cyn gwrandawiad ym mis Ionawr i benderfynu a fydd yn cael ei anfon i Sweden.

“Mae yna fygythiad yn erbyn fy mywyd. Mae yna fygythiad i fy staff,” meddai Julian Assange, 39. “Mae yna fygythiadau difrifol yn ei hwynebu hi.”

Mae awdurdodau Sweden eisiau holi Julian Assange ynglŷn â honiadau o droseddau rhywiol yn ei erbyn.

Mae o’n gwadu’r honiadau ac wedi cyhuddo awdurdodau Sweden o fod ag asgwrn i grafu ag ef.