Mae pryder am olew gwres canolog ac anrhegion wrth i’r ail bwl o dywydd caled daro gwledydd Prydain.
Mae’r Llywodraeth wedi rhybuddio y bydd pethau’n “ddifrifol iawn” os bydd yr eira a’r rhew’n parhau.
Prinder a phris olew yw’r broblem fwya’, gyda chwmnïau’n methu â dosbarthu – mewn rhai llefydd, mae sôn am restrau aros o gymaint â phedair wythnos a phris litr yn codi o 40c i 70c mewn mis.
Parseli yw’r broblem arall. Cyn yr eira diweddara’, roedd cwmnïau dosbarthu’n dweud bod cymaint â 4 miliwn o becynnau yn sownd yn y canolfannau.
Mae’r sefyllfa’n arbennig o ddrwg yn yr Alban a gogledd-ddwyrain Lloegr – yn ôl pennaeth cwmni Global Freight Solutions, fydd Sion Corn ddim yn cyrraedd pob ardal eleni.
Mae rhai cwmnïau wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n addo dosbarthu cyn y Nadolig yn yr Alban ac mae’r pwysau’n fwy oherwydd bod rhagor o bobol yn archebu nwyddau tros y We.