Mae undebau’r ffermwyr wedi croesawu’r newyddion y bydd eu haelodau yn derbyn eu holl daliadau Tir Mynydd yn 2013.

Wrth i’r cynllun ddod i ben, roedd yna bryder mai dim ond 60% fyddai’n dod y flwyddyn honno a 30% y flwyddyn wedyn.

Ddoe, fe gyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones, ei bod wedi newid ei meddwl ac y bydd taliad llawn derfynol yn cael ei wneud.

Y cefndir

Roedd y ffermwyr wedi bod yn cwyno am y penderfyniad – rhan o’u hanniddigrwydd cyffredinol tros gyflwyno cynllun amaeth-amgylcheddol newydd Glastir.

Fe fydd hynny’n rhoi pen ar gynlluniau fel Tir Mynydd, Tir Gofal a Thir Cymen a, hyd yn hyn, dim ond rhyw 3,000 o ffermwyr sydd wedi gwneud cais i ymuno â’r cynllun newydd.

Yn ôl y Llywodraeth, taliad 2012 fydd yr ola’ ond mae’r undebau’n dal i bwyso am drefniant ar gyfer 2013 hefyd.

Mae’r ffermwyr yn dweud y bydd y newid meddwl yn rhoi mwy o sicrwydd i rai sydd y tu allan i Glastir.

Llun: Y Gweinidog, Elin Jones