Fe fu farw gwraig o’r Cymoedd ar ôl cael band stumog i geisio rheoli ei harferion bwyta.

Fe ddaeth ei gŵr o hyd i Susan Archer, 50, yn farw yn y tŷ bach yn eu cartre’ ychydig tros saith wythnos wedyn.

Fe benderfynodd Crwner Gwent ar ddyfarniad naratif yn achos y gyn-dafarnwraig o’r Blaenau a oedd wedi symud i fyw i Wlad Thai.

Ond, a hithau’n ddim ond pum troedfedd o daldra ond yn pwyso 16 stôn, fe ddaeth yn ôl i wledydd Prydain i gael triniaeth i geisio’i hatal rhag bwyta cymaint.

Ysbyty preifat

Fe glywodd y cwest ei bod wedi mynd i ysbyty preifat yn Bromsgrove ger Birmingham i gael triniaeth i osod band stumog. Saith wythnos yn ddiweddarach fe gafodd awyr ei bwmpio i mewn iddo er mwyn cau rhywfaint ar ei chylla.

Pan aeth yn sâl fe ruthrodd ei gŵr hi’n ôl i’r ysbyty ond yr unig beth a wnaeth y doctoriaid yno oedd tynnu’r awyr o’r bandyn. O fewn llai na diwrnod roedd hi’n farw.

Achos y farwolaeth oedd peritonitis oherwydd rhwyg bychan yn wal y stumog ond, er ei fod yn amau bod yna gysylltiad rhwng hynny â’r driniaeth, fe benderfynodd y Crwner nad oedd prawf pendant o beth oedd wedi achosi hynny.

Llun: Stryd fawr y Blaenau