Mae gwraig o Gymru mewn peryg o gael ei dedfrydu i farwolaeth ar gyhuddiadau o werthu cyffuriau ym Malaysia.
Yn ôl rhai adroddiadau, mae Shivaun Orton, 41, sy’n fam i ddau blentyn, yn dod o ardal Bangor, yn ôl eraill, o ardal Harlech.
Mae hi a’i gŵr, dyn lleol 47 oed o’r enw Abdul Harris Fadilah, wedi cael eu harestio ar ôl i heddlu ddod o hyd i werth tua £16,000 o gyffuriau yn y busnes y maen nhw’n ei redeg mewn tref wyliau o’r enw Cherating.
Yn ôl heddlu Malaysia, roedd y cyffuriau’n cynnwys canabis, ecstasi ac amffetaminau ac fe all gwerthwyr cyffuriau wynebu’r gosb eitha’.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod yn gwybod am berson o wledydd Prydain sydd yn y ddalfa ym Malaysia ac maen nhw’n cynnig cymorth iddi.
Llun: Cherating