Gogledd a gorllewin Cymru a rhannau o’r Cymoedd sydd wedi cael eu taro galeta’ gan yr eira dros nos, gydag adroddiadau am gymaint â throedfedd mewn rhai mannau.
Mae cynghorau sir o Fôn i Abertawe a Rhondda Cynon Taf yn dechrau cyhoeddi manylion am ysgolion sydd wedi cau – mae gwybodaeth lawn ar gael ar wefannau’r siroedd.
Mae rhybuddion hefyd am amodau peryglus ar y rhan fwya’ o’r priffyrdd yn yr ardaloedd hynny, gan gynnwys yr M4 a gorllewin yr A55.
Yn ardal Llandegai ger Bangor, mae ochr ddwyreiniol yr A55 ar gau oherwydd damwain ac, yn ôl Heddlu Dyfed Powys, dim ond eu cerbydau gyriant pedair olwyn sy’n teithio ar hyn o bryd.
Y rhagolygon yw y bydd rhagor o gawodydd eira yn ystod y dydd ac mae’r awdurdodau’n rhybuddio pobol i aros gartre’ os nad oes angen gwirioneddol i deithio.
Llun: Yr M4 ger Hendy, Llanelli, ychydig cyn saith fore Gwener (Traffig Cymru)