Mae Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio o blaid cau pum ysgol gynradd yn ardal Tywyn.

Maen nhw eisiau agor ysgol ardal newydd ar safle ar gyrion pentref Llanegryn yn ystod tymor 2013-14. Fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn ariannu adeiladu’r ysgol newydd fydd yn costio £5.5m.

Fe fydd £2.4m hefyd yn cael ei wario ar wella cyfleusterau mewn tair ysgol arall yn yr ardal.

Bydd Ysgol Abergynolwyn yn cau erbyn 31 Mawrth, 2011, ac Ysgol Llwyngwril, Ysgol Bryncrug ac Ysgol Llanegryn yn cau yn 2013-14. Fe fydd Ysgol Aberdyfi hefyd yn cau erbyn 31 Awst 2013 ar yr amod fod yna welliannau yn Ysgol Penbryn.

“Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i raglen o fuddsoddi i wella safon addysg plant mewn cymunedau ledled Gwynedd,” meddai’r Cynghorydd Liz Saville Roberts sy’n arwain ar Addysg ar Gyngor Gwynedd.

“Yn ardal Dysynni, rydym wedi bod yn llwyddiannus wrth ddenu grant o £5.5 miliwn gan Lywodraeth y Cynulliad tuag at brosiect £7.9 miliwn yn ardal Tywyn i adeiladu ysgol ardal newydd ac i wella cyfleusterau o fewn tair o ysgolion eraill o fewn y dalgylch.

“Amcan y strategaeth yw sicrhau fod pobl ifanc yr ardal yn derbyn eu haddysg mewn cyfleusterau modern sy’n cynnig bob cyfle iddynt allu cyflawni eu llawn botensial.”