Mae nifer o awdurdodau lleol yn disgwyl graean ychwanegol erbyn diwedd yr wythnos nesaf wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer tywydd gaeafol dros y dyddiau nesaf.

Yn ôl proffwydi’r tywydd bydd siroedd Gorllewin Cymru, gan gynnwys Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion, a Sir Gâr, yn gweld eira.

Yr unig ardal y mae disgwyl iddi osgoi rhywfaint o eira ydi cymoedd y De-ddwyrain.

Ceredigion

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion bod 40% o’u stoc eisoes wedi cael ei ddefnyddio, bythefnos ers dechrau’r tywydd garw.

Mae ganddyn nhw 5,120 tunnell ar ôl, ac ar hyn o bryd mae’r lorïau’n defnyddio 80 tunnell bob tro y maen nhw allan yn graeanu.

Dywedodd y cyngor eu bod nhw’n gobeithio derbyn mwy o raean erbyn mis Ionawr.

Sir Gâr

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi dweud eu bod nhw wedi defnyddio 50% o’u graean a bod ganddyn nhw6,000 tunnell yn weddill.

Ond mae’r cyngor yn disgwyl derbyn 5,500 tunnell ychwanegol erbyn diwedd mis Rhagfyr.

Dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin eu bod nhw’n canolbwyntio ar raeanu eu prif ffyrdd a dim ond yn graeanu ffyrdd eraill pan fod galw arbennig.

Dyna’r unig fodd o sicrhau nad ydyn nhw’n rhedeg allan o raean, medden nhw.

Powys

Mae gan Gyngor Sir Powys 9,000 tunnell o raean ar ôl i’w ddefnyddio.

Roedd ganddyn nhw 16,000 tunnell ar ddechrau’r gaeaf ond maen nhw wedi gorfod defnyddio ei hanner eisoes.

Mae’r cyngor yn canolbwyntio ar raeanu 1,200 milltir o’u prif ffyrdd, sef tua 20% o holl ffyrdd y sir.

Gwynedd

Mae Cyngor Sir Gwynedd wedi dweud eu bod nhw’n cadw llygad ar faint o raean sydd ar ôl, wedi iddyn nhw ddefnyddio 7,000 tunnell dros yr wythnosau diwethaf.

“Yn ystod cyfnodau o dywydd garw mae staff Gwasanaeth Priffyrdd Cyngor Gwynedd yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau fod prif ffyrdd y sir yn agored ac yn ddiogel i bobl eu defnyddio,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.

“Yn ystod cyfnodau o eira a rhew bydd tîmau graeanu Cyngor Gwynedd yn trin 670 milltir o brif ffyrdd y sir, sef tua 40% o lonydd Gwynedd.

“Ar gychwyn y tymor roedd gan y Cyngor oddeutu 13,000 tunnell o halen wedi ei storio yn ein hysguboriau graean. Yn ychwanegol i hyn derbyniwyd llwyth ychwanegol o 1,000 tunnell.

“Yn dilyn y cyfnod o dywydd garw dros yr wythnosau diwethaf mae gennym oddeutu 6,000 tunnell o halen ar ôl yn ein hysguboriau. Rydym yn monitro’r sefyllfa yn gyson ac yn edrych i ailgyflenwi ein stoc”

“Gyda’r rhagolygon tywydd yn addo ychwaneg o eira a rhew dros y dyddiau nesaf, mae’r Cyngor yn annog gyrwyr i gymryd gofal ar y ffyrdd a dilyn y cyngor a roddir yn adroddiadau a rhagolygon tywydd.”

Ynys Môn

Mae gan Gyngor Ynys Môn 1,500 tunnell o raean ar ôl mewn stoc, llai na 40% o’u stoc gwreiddiol – roedd 3,800 tunnell gyda nhw pan ddechreuon nhw raeanu ar 24 Hydref.

Conwy a Dinbych

Ddoe roedd Conwy a Dinbych wedi cyhoeddi eu bod am ddefnyddio llai o raean nag arfer wrth drin y ffyrdd – er mwyn cynnal eu stoc. Ond roedden nhw’n pwysleisio y byddai’r lefelau newydd yn ddiogel.