Mae chwaraewr rheng ôl y Gweilch, Jonathan Thomas wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd newydd gyda’r rhanbarth.

Fe fydd ei gytundeb newydd yn cadw’r Cymro 27 oed yn Abertawe hyd nes haf 2014.

Mae Jonathan Thomas wedi chwarae 136 o gemau i’r Gweilch – y prop, Paul James yw’r unig chwaraewr i ymddangos mwy o weithiau i’r rhanbarth.

“Rwyf wrth fy modd i arwyddo cytundeb newydd. Rwyf wedi bod yn rhan o’r rhanbarth ers iddo ddechrau yn 2003. Rwy’n ymroddedig i helpu’r Gweilch i fod mor llwyddiannus ag sy’n bosib,” meddai Jonathan Thomas.

“Un o’r prif resymau dros arwyddo cytundeb newydd yw safon y bobl sydd wrth y llyw – mae pawb yn y garfan yn eu parchu”

“R’y ni wedi cael llwyddiant, ond r’y ni hefyd wedi cael ein siomi yn Ewrop, felly mae gymaint gyda ni i gyflawni eto”

“Rwy’n credu bod yr awyrgylch sy’n cael ei greu yma’n mynd i ddod a mwy o lwyddiant i ni.”

‘Profiadol’

Mae cyfarwyddwr hyfforddi’r Gweilch, Scott Johnson wedi croesawu’r newyddion am gytundeb newydd Jonathan Thomas.

“Mae dal yn ddyn ifanc ond mae ganddo brofiad sylweddol ac mae’n ddylanwadol iawn,” meddai Johnson.

“Mae ganddo agwedd bositif iawn ac mae wastad yn ceisio gwella a dyna r’y ni eisiau yn yr ystafell newid.”

Llun: Jonathan Thomas (gwefan URC)