Bydd cosb pedwar pwynt y Crusaders yn eu gwneud nhw’n fwy penderfynol o lwyddo ar ddechrau’r tymor, yn ôl yr hyfforddwr Iestyn Harris.

Fe fydd y clwb Cymreig yn dechrau’r tymor gyda phedwar pwynt o anfantais ar ôl cael caniatâd i chwarae yn y Super League ar gyfer tymor 2011.

Mae Harris wedi bod yn paratoi ei dîm ar gyfer y tymor newydd, ac wedi ychwanegu Stuart Reardon a Paul Johnson at ei garfan.

Mae’r Crusaders wedi cael hwb arall ar ôl i Gareth Thomas, Jarrod Sammut a Jason Chan arwyddo am dymor arall yn Wrecsam.

Mae’r clwb yn ffyddiog y bydden nhw allan o ddwylo’r gweinyddwyr yn fuan a dywedodd Iestyn Harris mai dechrau da i’r tymor fydd yr ymateb gorau i hynny.

“Mae pethau’n edrych dipyn yn well ac rydym ni’n gobeithio y bydd y chwaraewyr yn gallu dechrau mwynhau bod yma yn Wrecsam,” meddai Iestyn Harris.

“Mae’r gosb yn siomedig ond mae’n golygu bod angen i ni ddechrau’r tymor yn dda.”

Dywedodd Iestyn Harris nad oedd y sefyllfa oddi ar y cae wedi effeithio ar y chwaraewyr.

“Mae’r chwaraewyr wedi canolbwyntio ar eu gwaith. Maen nhw wedi bod yn paratoi’n dda yn yr ymarferion – alla’i ddim gofyn mwy na hynny.”