Mae gwleidyddion yng Nghymru wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth San Steffan i gau canolfannau gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi ac Aberdaugleddau.

Dim ond un ganolfan fydd ar ôl, yn y Mwmblws yn Abertawe, o ganlyniad i’r newidiadau. Ond dim ond yn ystod y dydd y bydd y ganolfan honno’n gweithreduBydd y cynlluniau.

Fe fyddy Llywodraeth yn cau 10 canolfan gwylwyr y glannau ledled Prydain, gan adael wyth yn weddill. Dim ond tair fydd ar agor 24 awr y diwrnod.

Ymateb Ieuan Wyn Jones

Dywedodd Ieuan Wyn Jones, Aelod Cynulliad Ynys Môn, y bydd yn brwydro yn erbyn y cynllun.

“Rydw i’n hynod siomedig bod llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi y bydden nhw’n cau canolfan gwylwyr y glannau Caergybi,” meddai.

“Fe fydd hynny’n gadael gogledd a gorllewin Cymru heb wasanaeth, penderfyniad a fydd yn siŵr o roi bywydau mewn perygl.

“Fe fydda’ i’n brwydro’n erbyn y penderfyniad ac yn ei gwneud hi’n glir pa mor bwysig ydi parhad y gwasanaeth yng Nghaergybi.”

Ymateb Peter Black

Dywedodd yr AC ar restr De Orllewin Cymru, Peter Black, ei fod yn croesawu’r penderfyniad i gadw canolfan gwylwyr y glannau yn Abertawe ond yn beirniadu’r cynllun i’w chau yn oriau’r nos.

“Dyw argyfyngoedd ddim yn digwydd ar adegau sy’n siwtio biwrocratiaeth y llywodraeth,” meddai. “Maen nhw’n aml yn datblygu dros gyfnod o oriau gan ymestyn o’r dydd i’r nos.

“Dan y cynllun yma, y ganolfan gwylwyr y glannau agosaf i ni fydd Portsmouth, gydag un arall yn Aberdeen. Dyw hynny’n dda i ddim i Gymru.”

Eglurhad y penaethiaid

Mae penaethiaid gwasanaeth gwylwyr y glannau yn pwysleisio nad arian yw’r unig reswm tros y penderfyniad.

Maen nhw’n dadlau fod newid o’r fath yn cael ei ystyried ers tro, yn rhannol oherwydd bod y dechnoleg wedi gwella’n sylweddol.