Mae’r bardd a’r darlithydd Meirion Pennar wedi marw yn 65 oed.
Fe’i ganwyd yng Nghaerdydd yn 1944 yn fab i’r bardd a nofelydd, Pennar Davies.
Fe dderbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Abertawe a Choleg Iesu, Rhydychen.
Bu’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Dulyn cyn symud i Adran Gymraeg Prifysgol Llanbedr Pont Steffan yn 1975.
Fe ymddeolodd o’i swydd oherwydd salwch yn 1994.
Fe gyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth, Syndod y Sêr yn 1972 a Pair Dadeni yn 1978.
Roedd o hefyd wedi cyhoeddi sawl cyfieithiad Saesneg o weithiau Cymraeg cynnar, gan gynnwys Taliesin Poems, The Poems of Taliesin, The Black Book of Carmarthen a Peredur.
‘Galluog’
Dywedodd yr Athro David Thorne, oedd yn ddarlithydd yn Adran Gymraeg Prifysgol Llanbedr Pont Steffan ar yr un cyfnod, bod Meirion Pennar ddarlithydd “arloesol”.
“Dyn galluog iawn oedd Merion Pennar ac roedd ei raglen dysgu yn arloesol,” meddai David Thorne.
“Roedd ei gyrsiau yn boblogaidd ac yn llwyddiannus. Roedd myfyrwyr yn hoff iawn ohono.
“Roedd ei gyfieithiadau yn boblogaidd ac yn bwysig yn enwedig i’r rhai hynny oedd yn dysgu’r iaith.”