Mae un golffiwr wedi marw ar ôl storm mellt a tharanau pwerus yn Awstralia.
Fe fu farw dyn 65 oed ac fe gafodd dau o’i gyfeillion eu hanafu ar bnawn ddydd Iau pan darodd mellten gwrs golff Hawks Nest, i’r gogledd o Sydney.
Disgynnodd cesair maint peli sboncen ar ddwyrain Awstralia, ac roedd yna lifogydd mewn rhai mannau. Roedd yr awyr yn Sydney wedi tywyllu cymaint daeth y goleuadau stryd arno.
Mae stormydd mellt a tharanau yn weddol gyffredin yn Sydney ar ddechrau haf hemisffer y de, sy’n dechrau ym mis Rhagfyr.